CS Interview Coach

4139 - Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol

Welsh Government

Department
Welsh Government
Location
Wales
Openings
5 posts
Grade
HEO
Salary
£37,111 to £45,378
Closing
8 days left
Profession
Other
Contract
Permanent
Security clearance
BPSS
Working pattern
Full-time, Part-time
Apply on Civil Service Jobs

Job summary

Pwrpas swyddi uwch-gyfieithwyr yw cynorthwyo Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol. Maent yn swyddi sy’n gwbl ganolog wrth i’r Llywodraeth gyfathrebu negeseuon allweddol â’r cyhoedd.

What they’re looking for

  • Cyfieithu ysgrifenedig
  • Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.
  • Sicrhau ansawdd
  • Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
  • Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, a chyfrannu at broses monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
  • Gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.
  • Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
  • Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Arddull a therminoleg
  • Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.
  • Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar BydTermCymru.
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.
  • Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.
  • Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau
  • Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol
  • Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr llai profiadol.
  • Gwirio a chynghori
  • Darparu gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion sy’n drafftio testunau yn Gymraeg.
  • Rhoi cyngor a chanllawiau clir a safonol i swyddogion ar faterion gramadeg, arddull a therminoleg.
  • Cyffredinol
  • Cynorthwyo’r Arweinwyr Timau i ddyrannu gwaith, gan ddirprwyo ar eu rhan yn ôl y gofyn.
  • Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.
  • Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu

Behaviours you’ll be assessed on

This advert says the panel will score you against these behaviours at HEO level. Each one links to worked examples.

Job description

  • Bydd pob uwch-gyfieithydd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
  • Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i uwch-gyfieithwyr adolygu cyfieithiadau testun, a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol. Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldebau rheoli llinell.
  • Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd eraill yn arbenigo mewn cyfieithu deddfwriaeth.
  • Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i uwch-gyfieithwyr gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminoleg.

Qualifications

Radd neu gymhwyster cyfatebol (e.e. gradd-brentisiaeth, dyfarniad lefel 6 neu NVQ lefel 6) mewn iaith, ieithyddiaeth, neu unrhyw bwnc perthnasol arall.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service

Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Selection process

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Experience and Technical skills.

Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyma’r broses a’r camau dethol:

Nifer y Camau:Proses 3 cham

Cam 1Cais

Cam 2Prawf ar-lein

Cam 3Cyfweliad

Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Practise before you apply

Civil Service panels score every answer against the Success Profiles behaviours at HEO level. Practise STAR answers and get them marked against the same framework.

Start practising free

3 free questions · No card needed

Similar vacancies

Interview articles for HEO roles

All articles

Browse more like this