4137 - Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol
Welsh Government
- Department
- Welsh Government
- Location
- Wales
- Openings
- 1 post
- Grade
- HEO
- Salary
- £37,111 to £45,378
- Closing
- 8 days left
- Profession
- Other
- Contract
- Permanent
- Security clearance
- BPSS
- Working pattern
- Full-time, Part-time
Job summary
Mae’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at waith yr Uned Ddatblygu i ddarparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.
What they’re looking for
- Terminoleg
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i gynnal prosesau safoni terminoleg, trwy gyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion, ar gyfer dogfennau â phroffil neu risg uchel (gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol)
- Darparu cyngor rhagweithiol ar derminoleg mewn dogfennau â phroffil neu risg uchel, neu rai sy’n cynnwys problemau terminoleg newydd/cymhleth, trwy gribo am dermau, cyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion
- Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau ad hoc gan gyfieithwyr ac eraill
- Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau brys gan Weinidogion
- Paratoi cofnodion addas ar gyfer y gronfa dermau, a gwirio ansawdd allforiadau o’r gronfa
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i ddatblygu canllawiau ac arweiniad ar agweddau penodol ar derminoleg a materion cysylltiedig
- Cynorthwyo i gynnal ansawdd y penderfyniadau a’r argymhellion a wneir, gan gynnwys:Sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac egwyddorion cydnabyddedig, a bod y rhesymeg yn cael ei hesbonio’n glir
- Trafod yn ôl yr angen â rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyfieithu, arbenigwyr iaith/terminoleg, arbenigwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr polisi/pwnc
- Cadw cofnod o’r penderfyniadau, a’r ymchwil a’r drafodaeth sy’n sail iddynt, a sicrhau bod trywydd archwilio clir ar gael
- Sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cymeradwyo ar y lefelau priodol, yn enwedig pan fyddant yn wleidyddol sensitif neu’n ddadleuol.
- Enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd
- Ymchwilio a drafftio cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Llywodraeth Cymru yn ehangach, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg ar waith Panel Safoni Enwau Lleoedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
- Ymchwilio a drafftio cyngor ar destun Cymraeg arwyddion ffyrdd, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig.
- Systemau ac adnoddau
- Cynnal prosiectau i sicrhau bod cofnodion TermCymru’n gyfredol, o ansawdd uchel, ac yn gyson
- Sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd addas i adnoddau a datblygiadau terminolegol y Gwasanaeth Cyfieithu ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i sicrhau bod yr adnoddau terminoleg yn addas i’r diben, yn cefnogi’r cyfieithwyr i’r graddau mwyaf posibl, ac ar gael yn gyhoeddus
- Cynnal cyflwyniadau a darparu hyfforddiant ar ddefnyddio’r pecynnau a’r systemau a gynhelir gan yr Uned Ddatblygu, ee y gronfa dermau, TermCymru, BydTermCymru
- Cyfathrebu â sefydliadau allanol (ee Yr Uned Technoleg Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Geiriadur Prifysgol Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill), er mwyn rhannu a dysgu am arferion da wrth ym meysydd terminoleg ac enwau lleoedd
- Meithrin arbenigedd er mwyn cefnogi a chynghori ar ddefnydd addas o offer technolegol ym maes rheoli terminoleg, gan gynnwys systemau a phrosesau priodol ar gyfer cribo termau, trafod a safoni termau gan sicrhau trywydd archwilio manwl, cynnal cronfeydd termau, a chyhoeddi a lledaenu termau.
- Cyffredinol
- Cydweithio â'r Swyddog Datblygu ar faterion a thasgau pan fo’r swyddog hwnnw yn cefnogi’r gwaith terminoleg, gan ddirprwyo yn ôl y gofyn
- Cynorthwyo’r Arweinydd Terminoleg i gynllunio rhaglen waith a phrosiectau unigol, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
- Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr
- Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais Pennaeth yr Uned Ddatblygu neu Bennaeth y Proffesiwn.
Behaviours you’ll be assessed on
This advert says the panel will score you against these behaviours at HEO level. Each one links to worked examples.
Job description
Prif amcanion y swydd yw:
- Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau gwydn o ansawdd uchel, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig y maes
- Cynnal a chynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllaw’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod â hygrededd uchel, ac yn bodloni gofynion y defnyddwyr
- Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymru’n ehangach.
Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Qualifications
Gradd neu gymhwyster cyfatebol (e.e. gradd-brentisiaeth, dyfarniad lefel 6 neu NVQ lefel 6) mewn iaith, ieithyddiaeth, neu unrhyw bwnc perthnasol arall, ynghyd â phrofiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf
Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
- UK nationals
- nationals of the Republic of Ireland
- nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
- individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
- Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)
Selection process
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills.
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Nifer y Camau:Proses 3 cham
Cam 1Cais
Cam 2Prawf ar-lein
Cam 3Cyfweliad
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Practise before you apply
Civil Service panels score every answer against the Success Profiles behaviours at HEO level. Practise STAR answers and get them marked against the same framework.
3 free questions · No card needed
Similar vacancies
- Operational Meteorologist - Heathrow · Met Office · £35,145+
- 2 x Legal Delivery Officer · Government Legal Department · £34,647
- Change and Problem Manager · Office for Standards in Education, Children's Services and Skills · £37,899
- Content Designer (4775) · Social Security Scotland · £39,767+
- 4139 - Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol · Welsh Government · £37,111+