CS Interview Coach

202608: Swyddog carchar – CEF Berwyn

HM Prison & Probation Service

Department
HM Prison & Probation Service
Location
Pentre Maelor, Wales, LL13 9QE
Openings
20 posts
Grade
AO
Salary
£34,928
Closing
2 days left
Profession
Operational Delivery, Other
Contract
Permanent
Security clearance
BPSS
Working pattern
Flexible working, Full-time, Job share, Part-time
Apply on Civil Service Jobs

Job summary

Please see job description

What they’re looking for

  • If you require any assistance, please call 0345 241 5358 (Monday to Friday 8am-6pm) or e-mail moj-recruitment-vetting-enquiries@resourcing.soprasteria.co.uk
  • . Please quote the job reference 20663.
  • The jobholder must be able to fulfil all spoken aspects of the role with confidence in English or (when specified in Wales) Welsh.
  • Closing date: 27th September 2026

Job description

Swyddog carchar – CEF Berwyn

CEF Berwyn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Heol y Bont i'r Gogledd, Wrecsam LL13 9QE

Cyflog cychwynnol: £36,816 (am wythnos 39 awr gan gynnwys 20% anghymdeithasol)

Dinas/Tref: Wrecsam

Rhanbarth: Cymru

Math o swydd wag: Llwyddo

Nid yw nawdd yn cael ei warantu, ac mae’n gyfrifoldeb ar ymgeiswyr i sicrhau bod ganddynt, ac y gallant gynnal, yr hawl briodol i weithio yn y DU.

Gall noddi fisa Gweithiwr Medrus fod ar gael ar gyfer y swydd hon, yn amodol ar gymhwysedd ac yn unol â Rheolau Mewnfudo’r DU sydd mewn grym ar adeg gwneud cais. Fodd bynnag, oherwydd gofynion mewnfudo cyfredol ac amserlenni recriwtio, mae’n annhebygol y bydd ymgeiswyr sydd angen nawdd fisa Gweithiwr Medrus yn cael nawdd wrth wneud cais i’r ymgyrch hon.

Argymhellir yn gryf fod ymgeiswyr yn ystyried eu hawl i weithio yn y DU yn ofalus cyn gwneud cais. Gallwch ddarllen mwy am fasysau Gweithiwr Medrus a’r meini prawf cymhwysedd ar gov.uk.

Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU fel y cânt eu cymhwyso yn y DU ac yn y Gwasanaeth Sifil.

Swydd arbennig. Wedi’i gwneud gan rywun fel chi.

Mae swyddogion carchar yn amddiffyn y cyhoedd ac yn helpu i gael effaith ar fywydau carcharorion.

Os oes gennych chi’r uniondeb, y sgiliau a’r cymeriad rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, gallai’r rôl ddynamig hon fod yn ddechrau gyrfa lwyddiannus.

Rhywun fel chi

Does dim ffasiwn beth â’r swyddog carchar arferol. Daw ein swyddogion o wahanol gefndiroedd, yn union fel y troseddwyr y maent yn gweithio gyda nhw. P’un a ydych chi’n rhiant, yn athro, wedi gweithio ym maes manwerthu, yn y lluoedd arfog, neu’n teimlo eich bod chi’n berson pobl naturiol, bydd gennych chi’r empathi, yr hunanhyder, y sgiliau cyfathrebu gwych a’r gwytnwch rydyn ni eisiau.

Beth bynnag fo’r her, byddwch yn cymryd yr amser i feithrin perthnasoedd adeiladol, cadarnhaol a phroffesiynol gyda charcharorion a allai fod ar y pwynt isaf yn eu bywydau.

Mae gwaith tîm yn chwarae rhan hollbwysig yn yr amgylchedd hwn, felly bydd angen i chi ymrwymo’n llwyr i gefnogi eich cydweithwyr a deall pwysigrwydd gweithredu fel un tîm i gadw’r carchar, carcharorion a phawb sy’n gweithio yma’n ddiogel.

Bydd gofyn i chi weithio shifftiau amrywiol a rhai penwythnosau.

Swydd arbennig

Yn yr yrfa unigryw hon, cewch gyfle i gyflawni llawer o wahanol rolau mewn unrhyw ddiwrnod. Un funud byddwch yn cadw’r heddwch, y funud nesaf byddwch yn gwnselydd neu’n athro. Byddwch chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda charcharorion mewn amgylchedd unigryw, gan helpu i ddiogelu’r cyhoedd a chael dylanwad cadarnhaol.

Dysgwch fwy am y rôl amrywiol hon a bywyd o ddydd i ddydd fel swyddog carchar.

Manylion y Swydd

Cymhwysedd

I fod yn swyddog carchar, bydd angen i chi:

  • fod yn 18 oed o leiaf pan fyddwch yn dechrau gweithio
  • bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil (gweler yr adran cenedligrwydd isod)
  • gan fod hon yn swydd gorfforol, bydd angen i chi basio asesiad meddygol a ffitrwydd fel rhan o'r broses ymgeisio
  • bodloni’r safon golwg sy’n ofynnol yn y ddau lygad (gyda a heb lensys cywiro)
  • Am resymau diogelwch, mae pawb sy’n hyfforddi i fod yn swyddog carchar angen gallu clywed i safon addas (heb ddefnyddio cymhorthion clyw)
  • Er y caniateir tatŵs, gan gynnwys rhai sy’n weladwy, ni ddylent gael eu hystyried yn sarhaus, yn gwahaniaethu, yn dreisgar neu’n fygythiol mewn unrhyw ffordd. Yn gyffredinol, nid yw tatŵs wyneb yn dderbyniol, ac eithrio pan fo hyn am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol.

I weithio mewn carchar diogelwch uchel (categori A) rhaid ichi fod wedi byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf.

Teithio i’r Gwaith

Mae rhai carchardai wedi’u lleoli mewn lleoliadau gwledig gydag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus cyfyngedig; felly, mae trwydded yrru a thrafnidiaeth eich hun yn fuddiol ond nid yw’n ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl (oni nodir yn wahanol). Sylwch fod amseroedd dechrau a gorffen shifftiau yn sefydlog, a’ch cyfrifoldeb chi yw cyrraedd a gadael eich gweithle ar amser ar gyfer dechrau eich shifft. Ystyriwch yn ofalus leoliad y swydd wag hon a’ch opsiynau trafnidiaeth cyn gwneud cais.

Gofynion Cenedligrwydd

Mae’r swydd hon yn agored yn fras i’r grwpiau canlynol:

  • dinasyddion y DU
  • dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
  • dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU
  • dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
  • dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
  • unigolion sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
  • dinasyddion Twrci, a rhai aelodau teulu dinasyddion Twrci, sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cadw’r hawl honno.

Sgiliau hanfodol

Does dim angen cymwysterau arnoch i fod yn swyddog carchar. Mae rhinweddau personol yn bwysicach. Mae angen i chi ddangos:

  • sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da
  • ymrwymiad i ansawdd
  • y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol
  • gofal a dealltwriaeth

Cyflog

Bydd yr hyfforddiant cychwynnol yn 37 awr yr wythnos. Ar ôl hyfforddi, gallwch ddewis gweithio 37, 39 neu 41 awr yr wythnos. Bydd eich cyflog blynyddol yn adlewyrchu eich oriau wythnosol.

  • 37 awr yr wythnos = £34,928 y flwyddyn
  • 39 awr yr wythnos = £36,816 y flwyddyn
  • 41 awr yr wythnos = £39,334 y flwyddyn

Mae’r holl ffigurau cyflog a nodir yn cynnwys unrhyw lwfansau ychwanegol.

Mae carchardai yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi weithio patrymau shifftiau amrywiol a fydd yn cynnwys gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus weithiau (ychwanegir y dyddiau hyn at eich lwfans gwyliau). Mae’r rhan fwyaf o garchardai’n gweithio gyda phatrwm shifftiau newidiol o 39 awr yr wythnos.

Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol gyda thâl.

Buddion

  • 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (yn codi i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth)
  • amser ychwanegol o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gwyliau cyhoeddus ac 1 diwrnod braint
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil o hyd at 20% o’ch cyflog
  • cynllun seiclo i’r gwaith, benthyciadau teithio a buddion eraill

Darllenwch fwy am fuddion gweithio fel swyddog carchar.

Y Broses Asesu

Yn ystod y broses recriwtio, byddwch yn cael eich asesu ar yr ymddygiadau, y cryfderau a’r galluoedd sy’n ofynnol i fod yn swyddog carchar effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyfathrebu a dylanwadu
  • rheoli gwasanaeth o safon uchel
  • gwneud penderfyniadau effeithiol
  • bod yn ofalgar

Byddwn yn asesu eich cryfderau naturiol i ganfod beth sy’n eich ysgogi a’ch sbarduno. Byddwn hefyd yn asesu eich gallu o ran rhifedd, Saesneg ysgrifenedig a Saesneg llafar.

Profion Ar-leinAr ôl i chi gwblhau eich ffurflen gais gychwynnol, cewch eich gwahodd i gwblhau cam 1 y prawf ar-lein, er mwyn gweld a oes gennych y sgiliau barnu sylfaenol a’r sgiliau rhifedd a ddisgwylir gan Swyddog Carchardai.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau cam 2 y prawf ar-lein (Asesiad ar Sail Gwerthoedd). Defnyddiwn yr asesiad hwn i ddeall pa mor dda rydych yn dangos y gwerthoedd sydd eu hangen i fod yn Swyddog Carchardai effeithiol.

Os byddwch yn llwyddo yn yr Asesiad ar Sail Gwerthoedd (VBA), byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r Ganolfan Asesu Ar-lein (OAC), lle byddwn yn asesu’r ymddygiadau, y cryfderau a’r galluoedd sydd eu hangen i ddod yn Swyddog Carchardai.

Gan y gall y galw am leoedd asesu amrywio, mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sy’n cyflawni sgôr VBA uwch a bennwyd ymlaen llaw yn cael eu gwahodd i’r OAC yn gynt. Caiff y dull hwn ei gymhwyso’n gyson ac yn deg i bob ymgeisydd o fewn yr ymgyrch.

Os byddwch yn cyrraedd y marc pasio gofynnol ar gyfer y VBA ond na chewch eich dewis ar gyfer gwahoddiad cychwynnol, byddwch yn parhau i gael eich ystyried ac efallai y cewch eich gwahodd i fynychu OAC wrth i gapasiti asesu ychwanegol ddod ar gael.

Os na fuoch yn llwyddiannus yng ngham 2 y prawf ar-lein yn ystod y 6 mis diwethaf, gallwch nawr ailymgeisio.

Y ganolfan asesu ar-lein (OAC)

Ar ôl cwblhau’r profion ar-lein yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i ganolfan asesu ar-lein lle byddwn yn profi i weld a ydych yn meddu ar y galluoedd, yr ymddygiadau a’r cryfderau i fod yn swyddog carchar.

Darllenwch fwy am y broses ymgeisio.

Cynigion swydd: swydd wag ar sail teilyngdod

Mae hon yn swydd wag ar sail teilyngdod. Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu ar-lein, cewch eich ychwanegu at restr deilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.

Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r ganolfan asesu, bydd y carchar yn gwneud cynigion swydd i’r unigolion sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd

Rôl Gradd Cymorth Gweithredol

Bydd ein Canolfan Asesu Ar-lein nid yn unig yn eich asesu yn erbyn y meini prawf allweddol i fod yn swyddog carchar ond bydd hefyd yn canfod eich addasrwydd i gael eich penodi i Rôl Gradd Cymorth Gweithredol. Os byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais i fod yn swyddog carchar, ar ôl bod yn y Ganolfan asesu ar-lein, gallwn gynnig rôl arall i chi fel Swyddog Cymorth Gweithredol.

Prawf Meddygol a Ffitrwydd

Unwaith y byddwn yn nodi swydd wag ar eich cyfer, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau prawf meddygol a ffitrwydd. Bydd hyn yn cynnwys prawf golwg, prawf clyw a sgrinio iechyd sylfaenol, gan gynnwys profion pwysedd gwaed.

Noder nad ydym yn gallu hwyluso asesiadau meddygol a ffitrwydd y tu allan i'r DU. Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu canolfan asesu meddygol a ffitrwydd yn y DU i symud ymlaen â'u cais.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr asesiad meddygol a’r prawf ffitrwydd yn y ganolfan wybodaeth ymgeisio

Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, yn unol â'r egwyddorion recriwtio a nodir yng Nghomisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol:

  • Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com
  • Adnoddau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent lle bynnag y mae’n cael ei darganfod. Gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil i ganfod mwy.

Cymorth ar ffurf Addasiadau Rhesymol

Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu dangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd. Mae cynnig cymorth ar ffurf addasiadau rhesymol i ymgeiswyr pan fyddant yn gwneud cais am un o’n swyddi yn un ffordd yn unig rydym yn gwneud hyn.

Cyn cwblhau profion ar-lein neu fynychu canolfan asesu ar-lein, mae’n hanfodol trefnu cymorth ar ffurf addasiadau rhesymol. Oherwydd cyfyngiadau ymarferol a logistaidd, ni all ein haseswyr ddarparu ar gyfer ceisiadau ar ddiwrnod y ganolfan asesu. Felly, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen addasiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i chi pan fydd ei angen arnoch.

Mae gwneud cais am gymorth addasiadau rhesymol wedi’i wneud i fod yn syml. Dewiswch ‘ydw’ yn y ffurflen gais pan fydd yn gofyn a ydych yn meddwl y gallai fod ei angen arnoch.

Manylion Lwfans

Edrychwch ar yr atodiad disgrifiad swydd ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5358 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm) neu anfonwch e-bost at MoJ-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com. Dyfynnwch gyfeirnod y swydd 20663

Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru) neu yn Saesneg.

Dyddiad cau: 27 3 Medi 2026

Dogfen ategol 1

Band-3-PO-Safe-Decent-and-Secure-JD048-v8. – 150KB Yn agor mewn ffenestr newydd

Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr

Mae’r cynllun ‘Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Lle Gwych i weithio i gyn-filwyr’ yn cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad iddynt. Caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog.

I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i: https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans

Cynllun Cyfweliad Adleoli

Mae disgwyl i adrannau’r Gwasanaeth Sifil archwilio cyfleoedd adleoli cyn dileu swydd unigolyn. Fel rhan o’r Cynllun Cyfweliad, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i’r rheini lle ‘y mae perygl y bydd eu swydd yn cael ei dileu’.

Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cyfweliad Adleoli os ydynt yn gwneud cais am ddyrchafiad.

Sut beth yw gweithio fel swyddog carchar?

Bydd ein gweithgaredd rhyngweithiol ar-lein yn rhoi cipolwg i chi ar rai o’r sefyllfaoedd sy’n gallu wynebu swyddogion carchar yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Pwrpas hyn yw eich helpu i benderfynu a yw rôl swyddog carchar yn addas i chi, ac ni fydd eich ymatebion yn y gweithgaredd yn rhan o’ch cais.

Gallwch gael mynediad at y gweithgaredd drwy ddefnyddio'r botwm Gweithgaredd Rhyngweithiol

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir fel rhan o'ch cais, gan gynnwys eich CV, datganiad o addasrwydd ac enghreifftiau ymddygiad, yn wir ac yn ffeithiol gywir. Nodwch y gall llên-ladrad gynnwys cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich rhai eich hun.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service

Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Selection process

Please see job description

Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Practise before you apply

Civil Service panels score every answer against the Success Profiles behaviours at AO level. Practise STAR answers and get them marked against the same framework.

Start practising free

3 free questions · No card needed

Similar vacancies

Interview articles for AO roles

All articles

Browse more like this